Ysgafell iâ yn yr Antarctig yn agos at ymrannu ar ôl i'r hollt ynddo dyfu 17km mewn 6 diwrnod

Mae'r hollt yn ysgafell iâ Larsen C yn yr Antarctig wedi tyfu 17km dros y diwrnodau diwethaf, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi bod yn astudio'r data diweddaraf o loerenni. Golyga hyn mai 13km yn unig sy’n dal yr ysgafell iâ at ei gilydd. Pan fydd yn torri’n rhydd, mae’n debygol o greu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd erioed, yn 180 km o hyd.

Mae’r Larsen C yn cael ei fonitro gan ymchwilwyr o Brosiect Midas y DU, sy'n cael ei arwain gan dîm o Brifysgol Abertawe.

Larsen C ice rift map 31 May 2017‌Y data diweddaraf o Brosiect MIDAS. 

Wrth ddisgrifio'r canfyddiadau diweddaraf, meddai'r Athro Adrian Luckman o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, sy'n bennaeth Prosiect Midas: “Dyma’r datblygiad mwyaf ers mis Ionawr. Mae’r hollt ysgafell iâ Larsen C wedi tyfu 17km (11 milltir) rhwng Mai 25 Mai a 31 Mai 2017. Mae’r hollt wedi symud o fewn 13km (8 milltir) i flaen yr iâ, a phan fydd yn torri’r holl ffordd drwyddo, mae’n debygol o greu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd erioed.

"Erbyn hyn, mae'r hollt wedi torri drwy'r parth o iâ 'asiad' meddal sy'n dechrau ger Penrhyn Cole, ac ymddengys nad oes llawer yn atal y mynydd iâ rhag torri'n rhydd yn gyfan gwbl."

Dywed ymchwilwyr y bydd colli darn sy'n cyfateb i chwarter maint Cymru'n gadael yr ysgafell gyfan yn agored i chwalu yn y dyfodol. Mae Larsen C tua 350m o drwch ac mae'n arnofio ar y moroedd ar ymyl Gorllewin yr Antarctig, gan ddal llif y rhewlifoedd sy'n ei bwydo yn ôl.

Ice rift

Yr hollt yn Larsen C (NASA, John Sonntag). 

Meddai'r Athro Adrian Luckman: “Pan fydd yn ymrannu, bydd ysgafell iâ Larsen C, yn colli mwy na 10% o'i harwynebedd a fydd yn gadael blaen yr iâ yn y safle pellaf yn ôl a gofnodwyd erioed. Bydd y digwyddiad hwn yn golygu newid sylfaenol yn nhirwedd Penrhyn yr Antarctig.

Rydym wedi dangos o'r blaen y bydd y ffurfwedd newydd yn llai sefydlog nag yr oedd cyn yr hollt, ac mae'n bosib y bydd Larsen C, yn y pen draw, yn dilyn enghraifft ei chymydog, Larsen B, a chwalodd yn llwyr yn 2002 yn dilyn digwyddiad ymrannu tebyg o ganlyniad  i hollti.”

Mi fydd Prosiect MIDAS yn parhau i fonitro datblygiad yr hollt er mwyn asesu effaith parhaus yr hollt. Bydd diweddariadau cyson yn cael eu rhannu ar ein blog ac ar ein ffrwd Twitter

Dywed y tîm nad oes ganddynt unrhyw dystiolaeth i gysylltu twf yr hollt hwn, na'r ymrannu terfynol, â newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, fe'i derbynnir yn eang bod cynnydd yn nhymheredd y cefnforoedd a thymereddau atmosfferig wedi bod yn ffactor wrth i ysgafellau iâ chwalu yn y gorffennol, yn enwedig Larsen A (1995) a Larsen B (2002).

Maent yn nodi bod hon yn un o'r ardaloedd sy'n cynhesu gyflymaf ar y Ddaear, rhywbeth na fydd wedi rhwystro'r hollt yn Larsen C rhag datblygu, yn sicr.