Mae tystiolaeth newydd o echdoriadau folcanig hynafol yn gwella gallu ymchwilwyr i ragfynegi cymylau lludw yn y dyfodol

Mae tystiolaeth newydd o echdoriadau folcanig hynafol yng ngogledd y Môr Tawel, a ddatgelwyd gan ymchwilwyr, yn awgrymu bod y perygl y gwelir rhagor o gymylau lludw, fel un y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ a amharodd ar yr holl draffig awyrol yn 2010 gan gostio tua $5 biliwn, yn uwch nag y tybiwyd o'r blaen.

Bu'r tîm ymchwil, dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, yn astudio creiddiau iâ o'r Ynys Las sy'n gofnod o weithgarwch folcanig yn ystod y 128,000 o flynyddoedd diwethaf. Mae datblygiadau technegol diweddar yn caniatáu dadansoddi darnau bach unigol a echdynnwyd o greiddiau iâ am lofnodion eu helfennau hybrin, sef math o ôl bys sy'n datgelu eu tarddiad.

Daeth y tîm ar draws tystiolaeth newydd o ffrwydradau yn Arc y Môr Tawel tua diwedd y cyfnod Pleistosen (rhwng 2.6 miliwn ac 11,700 o flynyddoedd yn ôl), sydd heb eu cofnodi yn y cofnod daearegol presennol. Gwasgarodd yr echdoriadau hyn ludw folcanig am bellterau o hyd at 8000 o gilomedrau o'u ffynhonnell.

Anna Bourne with Greenland ice core‌Dr Anna Bourne o Brifysgol Abertawe gyda darn o graidd iâ a echdynnwyd yn yr Ynys Las. Mae creiddiau iâ yn cadw cofnodion o weithgarwch folcanig dros filoedd o flynyddoedd. 
  • Roedd y dystiolaeth ar ffurf 12 dyddodyn lludw microsgopig (cryptoteffra) sy'n anweladwy i'r llygad noeth. Daethpwyd o hyd i'r dyddodion hyn ymysg llwyth o ddyddodion o echdoriadau lleol yng Ngwlad yr Iâ.
  • Mae oedran y dyddodion yn amrywio o 11,000 hyd 83,000 o flynyddoedd.
  • Cawsant eu cynhyrchu mewn islithriad tectonig sy'n nodweddiadol o ffynonellau folcanig gogledd y Môr Tawel - sy'n wahanol iawn i'r math o folcanigrwydd a welir yn y ffynonellau gerllaw yng Ngwlad yr Iâ.
  • Mae cyfansoddiad y dyddodion yn gyffelyb i ffynonellau o ogledd Arc y Môr Tawel, gan gynnwys Japan, Kamchatka (Dwyrain Pell Rwsia), arfordir gogledd-orllewin yr UD/Canada ac Alasga.
Greenland ice drilling site
‌Llun: Safle Drilio Iâ Eemian (NEEM) yng ngogledd Yr Ynys Las lle echdynnwyd un o'r creiddiau iâ a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon. Dan arweiniad Prifysgol Copenhagen, driliodd y tîm (a oedd yn cynnwys aelodau o 14 gwlad) i lawr mwy na 2.5 km i graigwely mewn ychydig dros ddwy flynedd.
Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn Scientific Reports. Byddant yn rhoi darlun mwy cyflawn o weithgarwch folcanig mewn cyfnodau cyn ein cyfnod ni - yr Holosen - a fydd yn gwella ein gallu i asesu risg cymylau lludw yn y dyfodol. 

Fel mae'r tîm yn ei adrodd:

"Mae gwasgariad helaeth lludw yn achosi perygl naturiol sylweddol i'n cymdeithas, yn enwedig o ran amharu ar deithiau awyrennau. Mae asesu hyd a lled bygythiad i  lwybrau hedfan gan gymylau lludw sy'n teithio'n bell wedi'i rwystro i raddau helaeth gan hanes folcanig anghyflawn a'r tueddiad i danamcangyfrif cyrhaeddiad posib canolfannau ffrwydro pell. Felly, nid yw'r perygl y mae cymylau lludw helaeth  yn ei achosi i hedfan wedi'i fesur yn dda."

Maent hefyd yn dweud bod y darlun llawnach hwn sy'n dechrau dod i'r amlwg yn sgil eu hymchwil yn golygu bod "y risg o darfu ar deithiau hedfan ar draws y Môr Tawel ac ar draws yr Iwerydd o ganlyniad i wasgaru lludw cylchol o Arc y Môr Tawel yn waeth nag y tybiwyd o'r blaen."

Cynhaliwyd yr ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o brosiect y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd dan arweiniad yr Athro Siwan Davies. Roedd y tîm o wyth ymchwilydd yn cynnwys pump arbenigwr o Brifysgol Abertawe, cydweithwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Copenhagen a Sefydliad Fwlcanoleg a Seismoleg Rwsia. 

Meddai Dr Anna Bourne o Brifysgol Abertawe, awdur arweiniol y papur: "Mae'r dystiolaeth newydd hon yn rhoi darlun mwy cyflawn i ni o'r cofnod folcanig. Nid yw rhai llosgfynyddoedd wedi cael eu hastudio'n fanwl ac mae ein gwybodaeth yn llawer llai cyflawn po bellach yn ôl rydym yn mynd."

Meddai'r Athro Siwan Davies o'r Coleg Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ein hymchwil yn dangos bod llawer mwy o echdoriadau yn y gorffennol wedi dyddodi lludw dros ardaloedd daearyddol llawer mwy helaeth nag yr oeddem wedi'i ragweld o'r blaen.

"Mae hyn yn dangos i ni bod perygl cymylau lludw yn y dyfodol yn fwy nag yr oeddem yn meddwl o'r blaen.

"Gall cymylau lludw achosi aflonyddwch ar raddfa anferth, fel y gwelwyd gyda'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ yn 2010. Mae'n bwysig iawn felly, bod gennym y ddealltwriaeth orau bosib o'r risgiau. Mae hyn yn golygu bod angen darlun mor gyflawn â phosib arnom o weithgarwch folcanig yn y gorffennol a bydd ein hymchwil yn helpu i ddarparu hyn."

Siwan Davies with Greenland ice core‌Yr Athro Siwan Davies yn archwilio darn o graidd iâ.