Ymchwil yn Abertawe yn datgelu cysylltiad rhwng dulliau amddiffyn amffibiaid gwenwynig a risg uwch o ddifodiant

Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd gan wyddonydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r risg o ddifodiant yn llawer uwch mewn amffibiaid sy'n defnyddio gwenwyn i'w hamddiffyn eu hunain yn erbyn ysglyfaethwyr - megis y broga dart gwenwynig - nag ydyw mewn rhywogaethau sy'n defnyddio ffyrdd eraill o amddiffyn.

Prif ganfyddiad astudiaeth ddiweddaraf Dr Kevin Arbuckle, a gyhoeddwyd heddiw (Ddydd Mercher, 23 Tachwedd) yng nghyfnodolyn Open Science y Gymdeithas Frenhinol, yw bod rhywogaethau gwenwynig 60% yn fwy tebygol o fod dan fygythiad na rhywogaethau heb ddulliau amddiffyn cemegol.

Poison Dart FrogFel arfer ystyrir mai amffibiaid yw'r grŵp o anifeiliaid fertebraidd sydd dan y bygythiad mwyaf, ac mae poblogaethau ledled y byd yn dirywio, gan beri heriau o ran cadwraeth.

Mae'r bygythiadau i fioamrywiaeth amffibiaidd yn niferus ac yn cynnwys cynefinoedd sy'n cael eu dinistrio'n gyflym, cam-fanteisio a llygryddion yn cael eu rhyddhau i'r amgylchedd.

Mae'n bosib bod cysylltiad rhwng llawer o nodweddion anifeiliaid a risg difodiant. Er enghraifft, mae'n hysbys neu amheuir bod nodweddion penodol yn dylanwadu ar ffactorau megis cyfraddau marwolaeth neu allu poblogaethau i ailsefydlu ar ôl dirywio, ac felly, gallant fod yn rhagfynegyddion wrth asesu risg difodiant.

Yn y gwaith gan Dr Arbuckle, Darlithydd y Biowyddorau (Bioleg Esblygiadol) yng Ngholeg Gwyddoniaeth y Brifysgol, defnyddiwyd amffibiaid fel system enghreifftiol i ganfod a oes cysylltiad rhwng dulliau cemegol o amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr a chyfraddau difodiant cyfoes.  Gwneir hyn drwy ddefnyddio statws cadwraeth (e.e. 'mewn perygl' 'agored i niwed') i fesur risg difodiant ymhlith rhywogaethau sy'n byw heddiw.

Meddai Dr Arbuckle: "Mae canlyniadau'r astudiaeth newydd hon yn awgrymu y gall dulliau gwenwynig o amddiffyn fod yn newyddion drwg yn y tymor hir i rywogaeth, er eu bod yn ffordd wych o osgoi ysglyfaethwyr.  Dyma enghraifft arall o esblygiad yn gweithio er lles yr unigolyn yn hytrach nag er lles y rhywogaeth.

"Mae'r canlyniadau'n awgrymu hefyd y gall y dulliau mae rhywogaeth yn eu defnyddio i'w hamddiffyn ei hun fod yn allweddol wrth asesu ar ba rywogaethau dylem dargedu ymdrechion cadwraeth.

"Mae'r astudiaeth yn adeiladu ar fy ngwaith blaenorol, a ganfu fod  amffibiaid gwenwynig hefyd yn fwy tebygol o drengi dros eu hanes esblygiadol, a'r cam nesaf yw darganfod pa fecanwaith sy'n sail i'r cysylltiad rhwng dulliau amddiffyn a difodiant.

Cyhoeddir papur Dr Arbuckle, “Chemical antipredator defence is linked to higher extinction risk”, heddiw yng nghyfnodolyn Open Science y Gymdeithas Frenhinol (Ddydd Mercher, 23 Tachwedd).

Yn y gorffennol, mae Dr Arbuckle wedi awgrymu tri phrif bosibilrwydd i esbonio cyfraddau difodiant uwch mewn amffibiaid gwenwynig, ac mae astudiaeth arall yn canolbwyntio ar ddarganfod pa rai o'r rhain sydd wedi bod yn bwysig. Y syniadau gwahanol yw:

-       Y ddamcaniaeth cemegau costfawr: Mae dulliau cemegol o amddiffyn yn defnyddio llawer o egni;

-       Y ddamcaniaeth cynefinoedd ymylol: Mae dulliau gwenwynig o amddiffyn yn caniatáu newid i gynefinoedd 'ymylol' (gallu isel i gynnal y rhywogaeth), sydd, yn eu hanfod, yn fwy agored i niwed ac;

Y ddamcaniaeth hanes bywyd araf: Mae dulliau gwenwynig o amddiffyn yn gysylltiedig â hanesion bywyd araf, sy'n niweidio gallu poblogaethau i ailsefydlu ar ôl cyfnod o ddirywio.