Sut gall gwybodaeth ecolegol leol achub anifeiliaid prin a rhai sydd mewn perygl

O wybod lle mae anifeiliaid yn byw, i ba blanhigion sy'n cynnig pa fuddion meddyginiaethol, mae cymunedau ledled y byd yn meddu ar wybodaeth arbenigol am eu hamgylcheddau lleol.

 Dugong

Y Dwgong Gosgeiddig. Jin Kemoole/FlickrCC BY-ND

Yn gyffredinol, mae ymchwiliadau gwyddonol yn darparu gwybodaeth fanwl gywir a mesuradwy, sy'n cael ei chasglu dros gyfnodau amser byr. Ond mae'r 'wybodaeth ecolegol leol' hon yn seiliedig ar arsylwadau a wneir dros gyfnodau hir iawn, sydd yn aml yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i'r un nesaf. Gall hyn gynnwys pethau syml, fel gwybod y lle gorau i bysgota, neu gall gynnwys digwyddiadau prin neu eithafol, megis llifogydd neu gyfnodau tywydd garw.

I gymunedau arfordirol, sy'n dibynnu ar adnoddau'r cefnfor, mae'r gronfa hon o wybodaeth ecolegol yn allweddol i gasglu bwyd a chynnal bywoliaethau. Ond nid oes angen i wybodaeth ecolegol gymunedol fod ar wahân i wyddoniaeth ac, yn wir, mae cysylltiadau rhyngddynt. Mae wedi cael ei 'phrofi' sawl tro gan wyddonwyr a bellach, mae'n cael ei chydnabod yn gynyddol fel ased gwerthfawr ym meysydd rheolaeth yr amgylchedd a bioleg cadwraeth.

Yn y blynyddoedd diweddar, o ganlyniad i gydnabyddiaeth ehangach o'i gwerth, mae gwybodaeth leol yn cael ei defnyddio i gynorthwyo wrth reoli adnoddau naturiol. Fe'i defnyddiwyd i helpu i gynllunio ardaloedd morol gwarchodedig, er enghraifft ym Myanmar a'r Pilipinas.

Drwy gyfuno'r ddau fath o wybodaeth, gall gwybodaeth leol fod yn offeryn defnyddiol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o ddata ar gael. Mae hyn yn enwedig o wir wrth fonitro rhywogaethau prin neu sydd mewn perygl.

Achub y dwgong

Mae'r dwgong yn anifail morol mawr sy'n dibynnu i raddau helaeth ar forwellt am ei fwyd ac mae morwellt ei hun yn rhywogaeth mewn perygl. Ar hyn o bryd, rhestrir y dwgong fel rhywogaeth "mewn perygl difodiant" ar restr goch Yr Undeb Cenedlaethol er Cadwraeth Natur. Mae bygythiadau mawr i boblogaethau dwgongiaid yn cynnwys colli cynefinoedd, datblygu'r arfordir, llygredd, gweithgareddau pysgota, cael eu bwrw gan longau a hela anghynaladwy neu botsio.

Credir bod dwgongiaid i'w cael mewn grwpiau bach gwasgaredig yn unig y tu allan i'r brif boblogaeth yn Awstralia. Er y gellir gweld dwgongiaid o hyd yn nyfroedd arfordirol mwy na 40 o wledydd ardal Indo-orllewinol y Môr Tawel, mae gwybodaeth wyddonol fanwl gywir yn brin ac yn anecdotaidd yn aml. I gefnogi'r gwaith o warchod yr anifeiliaid diamddiffyn hyn yn iawn, mae angen i ni wybod ble maent yn byw.

 

I fonitro poblogaethau dwgongiaid, mae ymchwilwyr yn defnyddio arolygon awyrol neu gerbydau awyrol di-beilot yn aml. Ond mae'r technegau hyn yn ddrud, a gall amodau anodd, megis dŵr cymylog a golau'r haul yn disgleirio ar y dŵr effeithio arnynt. Yn ogystal, maent yn darparu ciplun cyfyngedig yn unig o'r hyn a allai fod yn digwydd mewn ardal benodol ar adeg benodol.

I fonitro poblogaethau dwgongiaid, mae ymchwilwyr yn defnyddio arolygon awyrol neu gerbydau awyrol di-beilot yn aml. Ond mae'r technegau hyn yn ddrud, a gall amodau anodd, megis dŵr cymylog a golau'r haul yn disgleirio ar y dŵr effeithio arnynt. Yn ogystal, maent yn darparu ciplun cyfyngedig yn unig o'r hyn a allai fod yn digwydd mewn ardal benodol ar adeg benodol.

Dyma le mae gwybodaeth ecolegol leol yn gallu bod yn fanteisiol iawn. Os yw ar gael, gall ddarparu manylion am leoliad dwgongiaid a'r niferoedd sydd wedi'u gweld.

Ymdrechion Indonesia

Yn Indonesia, mae dwgongiaid wedi'u gwarchod ond nid oes llawer o wybodaeth hygyrch ar gael am eu niferoedd neu eu hamrediad daearyddol. Er yr ymddengys fod y llywodraeth yn ymrwymedig i gadwraeth y rhywogaeth, mae tystiolaeth gynyddol hefyd o ostyngiad cyflym yn nolydd morwellt Indonesia oherwydd nifer o fygythiadau, gan gynnwys gorbysgota.

Ond nid pysgotwyr yw gelynion y dwgong, a gallant fod yn allweddol wrth ei achub. Defnyddiodd ein hymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar wybodaeth pysgotwyr i gadarnhau presenoldeb parhaus dwgongiaid ym Mharc Cenedlaethol Wakatobi, Indonesia. Roedd y pysgotwyr, sy'n mynd allan yn eu llongau bob dydd, yn gallu rhoi amserau, dyddiadau a lleoliadau manwl gywir ar gyfer gweld dwgongiaid, a hynny mor bell yn ôl a 1942. Roedd gwybodaeth y pysgotwyr hyn yn fanylach o lawer nag unrhyw gofnod ymchwil swyddogol, ac roeddent yn gallu disgrifio tueddiadau hanesyddol a newidiadau mewn poblogaethau nad oeddent wedi'u cofnodi o'r blaen.

Nid dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd y math hwn o wybodaeth ecolegol leol er cadwraeth rhywogaeth ac nid hwn fydd y tro olaf. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys cadwraeth poblogaethau Morfilod Walbon sydd mewn perygl yn nyfroedd yr Ynysoedd Falkland a physgod dŵr croyw prin yn afon Mekong.

Mae cyfuno gwyddoniaeth a gwybodaeth ecolegol pobl leol yn gwneud mwy nag achub un rhywogaeth ar y tro hefyd. Mae'r cefnfor yn ecosystem, ac mae'r holl blanhigion, anifeiliaid a chreaduriaid eraill yn dibynnu ar ei gilydd. Mae cadwraeth dwgongiaid a morwellt, er enghraifft, yn mynd llaw yn llaw. I gasglu gwybodaeth well am ddosbarthiad poblogaethau dwgongiaid, mae angen i ni wybod dosbarthiad a statws morwellt hefyd. A thrwy integreiddio'r mathau hyn o wybodaeth, gallwn ddechrau achub y cefnforoedd.


Richard K.F. Unsworth, Swyddog Ymchwil, Prifysgol AbertaweBenjamin L. Jones, Ymchwilydd yn y Sefydliad Lleoedd Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd, a Leanne Cullen-Unsworth, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation. Gellir darllen yr erthygl wreiddiol yma.