Academydd yn edrych ar strategaethau ymdopi ar gyfer unigrwydd yn ystod yr haf ymhlith pobl hŷn

Wrth i lawer o bobl edrych ymlaen at ddiwrnodau hir a phoeth yn ystod yr haf, mae academydd o Brifysgol Abertawe’n rhybuddio y gall y tymor fod yn gyfnod arbennig o unig i bobl hŷn a allai deimlo'n ynysig.

Meddai Dr Deborah Morgan o Ganolfan Heneiddio Arloesol y Brifysgol, er mai’r gaeaf, yn enwedig y Nadolig, yw’r cyfnod a gaiff ei gysylltu fwyaf â lefelau uwch o unigrwydd, mae hefyd yn gyffredin i bobl deimlo’n unig yn ystod yr haf.

Rhesymau dros unigrwydd

Mae llawer o resymau posibl dros hyn megis:-

  • diwrnodau hirach
  • ffrindiau neu deuluoedd yn mynd i ffwrdd ar wyliau
  • gweithgareddau’n cau i lawr neu’n gweithredu ar lefelau gostyngol

Mae pobl hŷn yn gallu teimlo’n unig am lawer o resymau ac yn aml maent yn teimlo bod stigma yn gysylltiedig â siarad am unigrwydd. Gall unigrwydd neu arwahanrwydd cymdeithasol ddigwydd o ganlyniad i nifer o resymau gan gynnwys: 

  • salwch
  • profedigaeth neu chwalu priodas yn hwyrach mewn bywyd
  • colli teulu neu ffrindiau
  • symud i ardal newydd
  • ymrwymiadau gofalu
  • ymddeoliad
  • rhoi’r gorau i yrru

300 x 450

Strategaethau Ymdopi

Mae Dr Morgan wedi bod yn ymchwilio unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ymhlith pobl hŷn er mwyn codi ymwybyddiaeth o strategaethau ymdopi er mwyn lleddfu’r cyflyrau hyn. Yn ei sgwrs TEDX ddiweddar A Life Less Lonely dywed Dr Morgan: “Y bobl a lwyddodd i oresgyn yr unigrwydd oedd y rhai hynny a ddychwelodd i weithgareddau cymdeithasol y buont yn rhan ohonynt yn y gorffennol a’r rhai a ymunodd â grwpiau gweithgareddau neu a ddechreuodd hobïau newydd. Fodd bynnag, byddai’r rhai a oedd yn dioddef o unigrwydd cronig yn canolbwyntio ar weithgareddau y gallent ei wneud ar eu pennau eu hunain – megis darllen, gwylio’r teledu neu arddio, gyda rhai pobl yn troi at alcohol i leddfu’r poen.” 

Dywed y bydd rhai pobl bob amser yn dod o hyd i’w ffyrdd eu hunain o leddfu unigrwydd, tra bydd eraill yn troi at ymyriadau megis gwneud ffrindiau, mynd i de-partis a siediau dynion, sy’n helpu dynion i greu cysylltiadau cymdeithasol a gwneud ffrindiau.

Fodd bynnag, yn ei sgwrs mae Dr Morgan yn cydnabod ei bod yn bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar bobl sy’n wynebu unigrwydd cronig i’w helpu i oresgyn eu meddylfryd negyddol.  

Meddai: “Mae’n bosib y bydd angen cefnogaeth arnynt ar gyfer y gofid a’r iselder y gallent fod yn eu profi. Efallai y bydd angen cymorth arnynt i adennill yr hyder i fynd allan i’r byd cymdeithasol eto. Mae angen iddynt deimlo bod ganddynt werth a rhywbeth i’w gynnig. Hefyd mae angen iddynt gael y cyfle i wneud rhywbeth yn lle cael rhywbeth wedi’i wneud iddynt. Nid oes un dull sy’n addas i bawb.”

Gellir dod o hyd i’r canllaw poced a ysgrifennwyd gan Dr Morgan i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd yma

Mae Dr Morgan wedi bod yn gweithio gyda phobl fel Vic sydd wedi profi unigrwydd ac sydd bellach yn rhoi sgyrsiau i grwpiau er mwyn helpu i ehangu’r drafodaeth a chodi ymwybyddiaeth o unigrwydd a’r hyn y gellir ei wneud i helpu pobl sy’n profi unigrwydd.

300 x 317

Stori Vic

Mae Vic Brown sy’n 66 oed yn byw mewn pentref yng nghanolbarth Cymru, gogledd Powys.  Bedair blynedd yn ôl, bu farw gwraig Vic ar ôl bod yn briod ers 41 blynedd. Bellach mae Vic yn byw ar ei ben ei hun ond mae ganddo ddwy ferch sy’n byw gerllaw. Mae Vic wedi byw bywyd egnïol a thros y blynyddoedd mae wedi gweithio fel gwneuthurwr arwyddion, gwneuthurwr modelau, gyrrwr cerbydau nwyddau trwm yn ogystal â bod yn berchennog ac yn weithredwr cwch camlas, ond mae e bellach yn anabl ac yn gorfod defnyddio cadair olwyn yn aml i deithio o gwmpas.

Er ei fod yn berson cymdeithasol, dechreuodd Vic deimlo’n unig ac yn ynysig tra oedd yn gofalu am ei wraig pan aeth hi’n dost, a chynyddodd hyn ar ôl iddi farw. Er iddo godi’r mater hwn gydag amrywiaeth o bobl gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol a meddyg teulu, nid oeddent yn ei ystyried yn broblem, gan wneud iddo deimlo fel bod pobl yn meddwl bod ganddo agwedd negyddol.

Meddai: “Hoffwn i fywyd fod fel oedd e o’r blaen sbo. I gael sgwrs a hwyl, i fod yn  agos gyda phobl, ffrindiau, a ffrindiau go iawn unwaith eto hyd yn oed. Pobl sy’n cyfathrebu â’i gilydd ac yn gofalu am ei gilydd.”

“Trwy gydol fy mywyd rwyf bob amser wedi cynnig fy nghymorth, yn emosiynol neu’n gorfforol, i unrhyw un yr oedd ei angen arnynt,  ond rwyf wedi sylwi os cynigiaf gymorth, mae pobl yn meddwl fy mod i eisiau rhywbeth yn gyfnewid neu’n ceisio ymyrryd yn eu bywydau nhw. Yn gryno, mae pobl yn gwneud i fi deimlo fy mod i’n fusneslyd! Mae hynny’n drist iawn!.”

Daeth Vic yn aelod bwrdd yn ei gymdeithas dai leol a helpodd i roi pwrpas iddo ac wedi hynny bu’n ymwneud â sefydliadau megis Heneiddio’n Dda yng Nghymru, lle bu’n gweithio gyda phobl mewn sefyllfaoedd tebyg i’w sefyllfa ei hun.

Meddai: “Trwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynadleddau, rwyf wedi dod ar draws pobl go iawn. Pobl sy’n gofalu am eu cymuned. Mae wedi caniatáu i mi gymysgu â phobl o bob oedran a gallu.”

Meddai Vic fod hyn wedi rhoi’r cyfle iddo weld bod unigrwydd yn effeithio ar nifer helaeth o bobl. Meddai: “Mae’n effeithio ar bobl weddw, pobl sydd wedi ysgaru, hen bobl a phobl ifanc a chredaf fod cyfathrebu ac ysbryd cymunedol yn allweddol wrth geisio ei oresgyn.”