Cymuned yn cynnal arddangosfa i ddathlu pedwarugeinmlwyddiant cyngerdd Paul Robeson

Mae cymuned yn y cymoedd yn cynllunio dathliad arbennig i nodi pedwarugeinmlwyddiant cyngerdd hanesyddol yn cynnwys y canwr a’r gweithredwr hawliau sifil Affricanaidd-Americanaidd, Paul Robeson.

Mae cymuned yn y cymoedd yn cynllunio dathliad arbennig i nodi pedwarugeinmlwyddiant cyngerdd hanesyddol yn cynnwys y canwr a’r gweithredwr hawliau sifil Affricanaidd-Americanaidd, Paul Robeson.

Bydd yr arddangosfa unigryw Let Paul Robeson Sing! i’w gweld yng Nghlwb Gweithwyr Aberpennar, Aberpennar ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn, 7 ac 8 Rhagfyr.

Paul Robeson headMae’n cofio noson ym 1938 pan fu Paul Robeson yn canu mewn cyngerdd yn y Pafiliwn yn Aberpennar, er mwyn talu teyrnged i 33 o Gymru a fu farw ar ôl gwirfoddoli i ymladd gyda’r Frigâd Ryngwladol yn Rhyfel Sifil Sbaen.

Bydd y digwyddiad y mis nesaf, a drefnwyd gan Dr Michael Ward ac Eirwen Hopkins o Brifysgol Abertawe, yn cynnwys arddangosfa o 30 o faneri naid yn amlinellu bywyd a dylanwad Paul Robeson.

Paul Robeson poster CymMae Dr Ward, a anwyd ac a fagwyd yn Aberpennar, yn angerddol am ddathlu’r gyngerdd gyda’r gymuned a’i groesawodd.

Dwedodd:

“Roedd Paul Robeson yn ganwr hynod ddawnus o UDA, gyda’r llais bariton mwyaf rhyfeddol. Roedd hefyd yn gyfreithiwr cymwysedig, ysgolhaig, mabolgampwr, actor, deallusyn, ieithydd ac areithydd. Byddai pawb yn dwlu arno bel bynnag yr aeth, ac roedd yn fyd-enwog.”

 “Wedi’i erlid yn UDA oherwydd lliw ei groen a’i gredoau gwleidyddol, mae Paul Robeson yn enghraifft o ddewrder a dyngarwch, ac mae’n iawn bod pobl Aberpennar yn falch o’u perthynas â’r dyn, ac o’r gyngerdd a gynhaliom, a dylent ei chofio fel noson eithriadol.”

Yn fab i gaethwas a ddihangodd, safodd Paul Robeson yn erbyn yr hiliaeth a’r anghydraddoldeb y dioddefodd Americanwyr du, ac yn erbyn anghyfiawnder ym mhobman.

Dywedodd Dr Ward:

“Ymhell cyn amser Rosa Parks, Martin Luther King neu Malcolm X, bu Paul Robeson yn defnyddio’i enwogrwydd a’i ddylanwad i dros hawliau sifil ac i ymladd am gymdeithas decach.”

Ychwanegodd bod Paul Robeson yn credu mai ym Mhrydain y dechreuodd ei addysg wleidyddol, wedi’i llywio gan gyswllt â gweithwyr, a ffurfiodd berthynas agos a chadarn â glowyr De Cymru. Canodd i godi arian ar gyfer Cronfa Gymorth y Glowyr, ac aeth i Sbaen i ganu i’r Frigâd Ryngwladol yn brwydro’n erbyn y Ffasgwyr yn y Rhyfel Sifil.

Mae ymddangosiad Robeson yn y ffilm Proud Valley ym 1940, wedi’i lleoli mewn cymuned glowyr yn ne Cymru, yn cael ei chofio o hyd fel portread arloesol o ddyn du fel arwr, mewn cyfnod pan fo rhagfarn a chasineb yn achosi dioddefaint aruthrol i Americanwyr Affricanaidd.

Roedd 7,000 yng nghynulleidfa’r gyngerdd ym 1938. Wrth gyflwyno’r noson, dywedodd arweinydd yr Undeb, Arthur Horner: “Yn ne Cymru rydym wastad wedi byw er rhyddid, ac rydym yn barod i ymladd amdano.”

Disgrifiodd yr hanesydd yr Athro Hywel Francis y gyngerdd fel noson llawn emosiwn, yn symbol o achos rhyngwladoldeb yr oedd yr ymladd yn Sbaen yn ei gynrychioli.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cymru Paul Robeson ym 1999 i greu’r arddangosfa Let Paul Robeson Sing!, ac mae’n parhau i hyrwyddo cofio Paul Robeson a’i berthynas â Chymru.

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol yn 2000 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth ei fab, y diweddar Paul Robeson Jnr.

Ariannwyd yr arddangosfa, a ddyluniwyd gan Phil Cope, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Fe’i disgrifiwyd gan Paul Robeson Jnr. fel, “tystiolaeth nwyfus a byw o’r cyswllt rhwng treftadaeth fy nhad a bywyd Cymru heddiw ac yn y dyfodol.”

Mae’r arddangosfa ar fenthyg o’i chartref parhaol yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, sydd hefyd yn gartref i gasgliad o ddeunyddiau sy’n ymwneud â Paul Robeson â’i gysylltiadau â Chymru, ac mae wedi bod yn cefnogi prosiect Aberpennar.

Mae Mike ac Eirwen nawr yn cynllunio i adeiladu ar frwdfrydedd am y prosiect drwy sefydlu Grŵp ‘Proud Valley’ i drefnu dathliad mwy o Paul Robeson yn Aberpennar y flwyddyn nesaf.

Os hoffech fod yn rhan o hyn, neu os oes gennych atgofion, storïau, cofroddion neu syniadau am y rhan hon o hanes Aberpennar, cysylltwch â Mike neu Eirwen.

Am wybodaeth pellach , cysylltwch â ni gan defnyddio’r manylion isod: 

Dr Michael Ward07890 874188 01792513269| m.r.m.ward@swansea.ac.uk 

Eirwen Hopkins 01792 604510| e.hopkins@swansea.ac.uk