Dyfeisiau newydd yn helpu i ddatgelu ymddygiad torfol anifeiliaid gwyllt

Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad biolegwyr o Brifysgol Abertawe wedi disgrifio sut mae technolegau newydd yn trawsnewid ein dealltwriaeth o'r rhesymau pam mae anifeiliaid gwyllt yn ffurfio grwpiau gwahanol.

Drwy gyfuno data tracio anifeiliaid â data amgylcheddol o loeren neu ddrôn, gall gwyddonwyr ddechrau astudio grwpiau cyfan a'u rhyngweithiadau yn yr amgylcheddau naturiol a newidiol lle maen nhw wedi byw ac esblygu.

Bellach gall ymchwilwyr elwa o ddyfeisiau megis bio-gofnodwyr, sef dyfeisiau tracio electronig, wedi'u hatodi i anifeiliaid, sy'n cofnodi safle GPS a symudiadau'r anifail. Er enghraifft, mae anifeiliaid gwyllt yn ffurfio grwpiau amrywiol, megis heidiau, heigau, preiddiau, greoedd a thyrfaoedd, ond mae biolegwyr yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn Trends in Ecology & Biology bellach o'r farn bod y dechnoleg newydd hon wedi darparu 'manylder nas gwelwyd o'r blaen'.

Er enghraifft, mae casglu data am ymddygiad pob unigolyn mewn grŵp ar yr un pryd yn rhoi trosolwg cyflawn o'r rhyngweithiadau i'r gwyddonwyr.

Hyd yn hyn, nid oedd modd creu'r math hwn o ddata ond yn y labordy, lle mae gwyddonwyr yn tueddu i gasglu data ar symudiadau unigolion mewn heigiau o bysgod neu gytrefi pryfed ar sail recordiadau fideo.

600 x 451

Meddai Dr Andrew King, prif awdur yr astudiaeth ac Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe:

"Yn y degawd diwethaf, rydym wedi dysgu swm aruthrol o wybodaeth am ymddygiad torfol anifeiliaid o waith yn y labordy.

"Ond mae'r amgylchedd yn y labordy yn llai cymhleth na'r cynefin gwyllt, a'r gwyddonwyr fel arfer fyddai'n penderfynu ar gyfansoddiad y grwpiau roedden nhw'n eu hastudio."

Meddai Dr Ines Fürtbauer, cyd-awdur yr astudiaeth ac uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe:

"Mae'n anodd astudio ymddygiad cymdeithasol yn yr amgylchedd gwyllt. Wrth arsylwi ar fwncïod, mae'n rhaid i mi ganolbwyntio fy sylw ar un neu ddau unigolyn ar y tro.

"Mae bio-gofnodwyr - sef dyfeisiau electronig sy'n gallu cael eu hatodi i anifail, ar goler, er enghraifft - yn newid pethau. Gallan nhw ddarparu data ar ymddygiad llawer o unigolion ar yr un pryd.

Meddai Dr Gaëlle Fehlmann, cyd-awdur yr astudiaeth, sy'n gweithio yn Sefydliad Adareg Max Planck yn Yr Almaen:

"Mae'r data newydd hyn yn caniatáu i ni astudio ymddygiadau cymdeithasol mewn manylder nad ydym wedi'i weld o'r blaen. Lle mae gwrthdaro rhwng grwpiau o anifeiliaid gwyllt a phobl, er enghraifft, gallwn ragfynegi'n well sut efallai bydden nhw'n ymdopi ag unrhyw gyfyngiadau sy'n cael eu gorfodi arnynt gan bobl."