Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ‘eithafol’

Mae’r Athro Gert Aarts, o Goleg Gwyddoniaeth a Ffiseg Prifysgol Abertawe, wrthi’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr doethurol ym maes astudio cwarciau a glwonau dan amodau eithafol, yng Nghanolfan Ewrop ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol mewn Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig (ECT*) yn Trento, yr Eidal.

Gydag oddeutu 40 o fyfyrwyr sy’n dod o Ewrop, Brasil, UDA, Japan, India, Tsiena ac Iran, mae’n rhaglen wirioneddol ryngwladol sy’n adlewyrchu’r ymchwil fyd-eang mewn mater eithafol.

Yn ystod y rhaglen pedair wythnos, bydd myfyrwyr PhD yn mynychu darlithoedd gan wyddonwyr rhagorol, yn cyflwyno eu gwaith eu hunain mewn sgyrsiau byr ac yn cydweithio i feistroli’r deunydd. Mae’r Athro Aarts yn trefnu’r Rhaglen Hyfforddiant Doethurol ar y cyd a’r Athro Dirk Rischke o Brifysgol Goethe, Frankfurt.

Meddai’r Athro Aarts: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddod â grŵp mor amrywiol o fyfyrwyr PhD ynghyd. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt ar ddechrau eu gyrfa wyddonol, mae ganddynt gyfle i ddysgu oddi wrth ei gilydd tra hefyd yn creu cysylltiadau a allai bara am oes.   

European Centre for Theoretical Studies in Nuclear Physics and Related Areas (EC“Mae ein rhaglen hyfforddiant yn dechrau gyda ffiseg ddamcaniaethol sylfaenol ac yn gorffen pan fydd yr ymchwilwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth i’r rhaglen ionau trwm arbrofol yn y Gwrthdarwr Hadron Mawr yn CERN. Trwy’r DTP rydym yn gobeithio y bydd y cyfranogwyr wedi’u paratoi’n well i ddarparu cyfraniadau gwyddonol pwysig ym maes mater eithafol.”

ECT* yw Canolfan Ewrop ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol mewn Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig. Caiff ei hariannu’n rhannol drwy STFC, Cyngor Ymchwil y DU ar gyfer Ffiseg Ronynnol a Niwclear.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddiant Doethurol yma

Yn y llun: Yr Athro Aarts a myfyrwyr yn safle ETC* yn Villa Tambosi.