Mae Eifftolegwr o Abertawe wedi Darganfod Pen Ffaro Cudd

Mae darlithydd Eifftoleg o Brifysgol Abertawe, Dr Ken Griffin, wedi darganfod darlun o un o ffaroaid enwocaf hanes, Hatshepsut (un o ychydig yn unig o ffaroaid benywaidd) ar wrthrych a ddewiswyd o storfeydd y Ganolfan Eifftaidd ar gyfer sesiwn trin gwrthrychau.

Mae'r Ganolfan Eifftaidd  yn cynnig cyfleoedd i drin arteffactau o'r Hen Aifft i fyfyrwyr sy'n astudio Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ystod sesiwn ddiweddar ar gyfer modiwl Celf a Phensaernïaeth yr Aifft, sylwodd Dr Kenneth Griffin o Adran Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg Prifysgol Abertawe, fod un o'r gwrthrychau a ddewiswyd yn llawer mwy diddorol nag y tybiwyd ar yr olwg gyntaf.

Yr arteffact ar ôl ei ad-drefnu i ddangos sut gellid cwblhau'r wyneb.

Roedd y gwrthrych - sy'n cynnwys dau ddarn o galchfaen â siâp afreolaidd, wedi'u gludo ynghyd - wedi bod yn y storfa am dros 20 mlynedd. Gofynnwyd amdano ar gyfer y sesiwn trin gwrthrychau ar sail hen ffotograff du a gwyn yn unig.

Ar y tu blaen, gwelir pen ffigur ond mae'r wyneb ar goll, yn anffodus. Gwelir rhan o wyntyll yn uniongyrchol y tu ôl. Gellir gweld olion hieroglyffau uwchlaw'r pen hefyd. Mae eiconograffeg y darn yn awgrymu ei fod yn cynrychioli un o reolwyr yr Aifft, yn enwedig gan ystyried presenoldeb y sarfflun (cobra) ar dalcen y ffigur. Pwy yw'r ffaro dirgel hwn ac o ble daeth y darn?

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wybodaeth am darddiad gwreiddiol y gwrthrych na ble y’i darganfuwyd drwy chwilio cofnodion y Ganolfan Eifftaidd. Yr hyn sy'n hysbys yw y daeth i Abertawe ym 1971 yn sgil dosbarthu'r gwrthrychau a oedd yn rhan o gasgliad Syr Henry Wellcome (1835-1936), yr entrepreneur fferyllol o Lundain. Mae'r darnau yn llai na 5cm o drwch ac mae'n amlwg o'r olion torri ar y tu cefn eu bod wedi cael eu tynnu o deml neu fedd.

Gan ei fod wedi ymweld â'r Aifft dros 50 o weithiau, sylweddolodd Dr Griffin yn gyflym fod yr eiconograffeg yn debyg i gerfweddau a geir yn nheml Hatshepsut yn Deir el-Bahri (Luxor), a adeiladwyd pan oedd y Deyrnas Newydd ar ei hanterth. Mae'r ffordd y darluniwyd y gwallt, y rhuban pen â'r sarfflun troellog a'r addurno ar y wyntyll yn enwedig yn gyffredin iawn yn Deir el-Bahri. Yn bwysicaf oll, mae'r hieroglyffau uwchlaw'r pen - rhan o destun fformiwläig a welir man mannau eraill yn y deml - yn defnyddio rhagenw benywaidd, arwydd clir mai menyw yw'r ffigur.

Hatshepsut oedd pumed ffaro'r Ddeunawfed Frenhinlin (c. 1478-1458 CC) ac roedd yn un o ychydig yn unig o fenywod i ddal y rôl hon. Yn gynnar yn ei theyrnasiad, byddai'n cael ei chynrychioli fel menyw yn gwisgo ffrog hir ond, yn raddol, dechreuwyd ei darlunio â phriodweddau mwy gwrywaidd, gan gynnwys barf. Roedd teyrnasiad Hatshepsut yn nodweddiadol am ei heddwch a'i ffyniant a ganiataodd iddi adeiladu cofadeiladau ledled yr Aiff. Mae ei theml goffa yn Deir el-Bahri, a adeiladwyd i ddathlu a chynnal ei chwlt, yn gampwaith o bensaernïaeth Eifftaidd.

Aethpwyd â llawer o ddarnau o'r safle hwn yn ystod blynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg cyn i'r deml gael ei chloddio gan Gronfa Archwilio'r Aifft (Gymdeithas Archwilio'r Aifft bellach) rhwng 1902 a 1909. Ers 1961, mae Cenhadaeth Archeolegol Gwlad Pwyl i'r Aifft wedi bod yn cloddio, yn adfer ac yn cofnodi'r deml.

Ond eto, mae dirgelwch y darganfyddiad rhyfeddol yn parhau. Ar gefn y darn uchaf, gwelir pen dyn â barf cwta. I ddechrau, nid oedd modd esbonio hyn ond bellach, mae'n amlwg bod y darn uchaf wedi cael ei symud a'i ail-gerfio’n ddiweddarach er mwyn cwblhau wyneb y darn isaf. Byddai disodli'r darn islaw'r ffigur hefyd yn esbonio toriad anarferol y darn uchaf. Mae'n debygol i hyn gael ei wneud gan werthwr hynafolion, arwerthwr, neu berchennog blaenorol y darn hyd yn oed, i gynyddu ei werth a'i apêl. Ar ddyddiad anhysbys wedyn, penderfynwyd gludo'r darnau ynghyd yn y drefn wreiddiol, fel maent yn ymddangos nawr.

Ymddengys mai Deir el-Bahri yw tarddiad mwyaf tebygol yr arteffact hwn, ond mae angen ymchwil pellach er mwyn cadarnhau hyn. Efallai y bydd yn bosib, ryw ddydd, i bennu union darddle'r darnau hyd yn oed.

Gan ystyried pwysigrwydd y gwrthrych, mae pen Hatshepsut bellach yn cael ei arddangos mewn man amlwg yn Nhŷ Bywyd yn y Ganolfan Eifftaidd er mwyn i ymwelwyr â'r Ganolfan allu ei werthfawrogi.

Ken Griffin and artefactMeddai Dr Griffin: "Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn adnodd gwych ac yn sicr ymysg y prif ffactorau sy'n denu myfyrwyr i astudio Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe.

"Mae adnabod pen Hatshepsut ar y gwrthrych wedi achosi cyffro mawr ymhlith y myfyrwyr. Wedi'r cwbl, dim ond drwy drefnu sesiynau trin gwrthrychau ar gyfer myfyrwyr y daeth i'r amlwg.

"Er nad yw'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr wedi ymweld â'r Aifft o'r blaen, mae'r sesiynau trin gwrthrychau yn helpu i ddod â'r Aifft iddyn nhw."