Dengys ymchwil newydd sut gall colli cynefinoedd danseilio ecosystemau

Mae astudiaeth ryngwladol wedi datgelu tystiolaeth newydd i'n helpu i ddeall yr effaith ar gymunedau naturiol o golli cynefinoedd.

Mae'r papur ymchwil, a ysgrifennwyd ar y cyd ag eraill gan Dr Miguel Lurgi o Brifysgol Abertawe, yn dangos y ffyrdd penodol y mae gweithgareddau dynol yn dinistrio cynefinoedd ac mae'n gyfraniad allweddol at ein dealltwriaeth o effeithiau'r fath ddinistr ar sefydlogrwydd a gweithredu cymunedau biolegol. 

Mae'r papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddonol, Nature Communications, yn gofyn a yw canolbwyntio ar amrywiaeth rhywogaethau yn unig yn golygu ein bod yn anwybyddu agweddau eraill ar ymateb cymunedau biolegol i ddinistrio eu cynefinoedd. 

Meddai Daniel Montoya, ymchwilydd yn yr Orsaf Ecoleg Ddamcaniaethol ac Arbrofol yn Moulis, Ffrainc, sy’n un o'r awduron: "Mae ecolegwyr ac ymarferwyr yn tueddu i asesu effaith gweithgareddau dynol ar fioamrywiaeth drwy fesur cyfraddau difodiant rhywogaeth. 

"Fodd bynnag, mae mwy i fioamrywiaeth na rhywogaethau sengl, er enghraifft, y rhyngweithiadau rhwng rhywogaethau a'u sefydlogrwydd dros amser. 

"Mae'r priodweddau ychwanegol hyn, sydd weithiau'n cael eu hesgeuluso, yn rhan allweddol o weithrediad ecosystemau. Dyma'r elfen o golli bioamrywiaeth sy'n rhagflaenu neu'n cyd-fynd â difodiant rhywogaeth." 

600 x 401

Canfu'r astudiaeth hon fod y ffyrdd penodol y collir cynefinoedd yn bwysig i ymateb bioamrywiaeth. 

Ychwanegodd Dr Montoya: "Gall cynefinoedd naturiol gael eu dinistrio ar hap neu mewn clystyrau - er enghraifft, o ganlyniad i adeiladu ffordd neu greu ardaloedd trefol newydd. Mae ffurfwedd ofodol y golled hon yn cyfyngu ar symudedd anifeiliaid unigol mewn ffyrdd gwahanol; mae hyn yn effeithio ymhellach ar fioamrywiaeth a sefydlogrwydd poblogaethau yn y rhannau o'r cynefin sy'n goroesi." 

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae hyn yn peri cwestiwn rhesymegol - sut caiff cynefinoedd eu dinistrio mewn tirweddau go iawn ledled y byd? 

"Mae'n dibynnu ar y raddfa ofodol rydym yn ei hastudio. Serch hynny, gwnaethom archwilio sawl senario o ran colli cynefin, ac mae ein canlyniadau'n awgrymu bod ymatebion cymunedau'n raddol mwy neu lai, a gellir eu rhagweld ar sail lefel cydberthynas gyfnodol ofodol y cynefin sy’n cael ei golli," meddai Dr Lurgi. 

Mae'r astudiaeth hon yn seiliedig ar ymchwil diweddar i newidiadau mewn amrywiaeth leol yn sgil newidiadau byd-eang, sy'n bwnc llosg ar hyn o bryd. 

"Rydym yn awgrymu bod patrymau gofodol o ran colli cynefinoedd yn dylanwadu ar strwythur a dynameg amrywiaeth mewn ffyrdd gwahanol a chyferbyniol iawn i raddau helaeth, waeth a oes newid positif, negyddol neu niwtral yn yr amrywiaeth leol." 

Bu Dr Lurgi, sy'n ddarlithydd yn Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe yn gweithio gynt mewn sefydliad o fri yn Ffrainc, CNRS, a chyfrannodd at y papur fel rhan o'i ymchwil ei hun sy'n ymwneud â dynameg datodiad rhwydweithiau ecolegol. 

Gobaith yr awduron yw y defnyddir eu canfyddiadau i lywio gwyddor amgylcheddol ac wrth lunio polisïau yn y dyfodol. Hoffent weld ystyriaeth yn cael ei rhoi i agweddau ar strwythur a sefydlogrwydd cymunedau, yn ogystal â ffurfwedd colli cynefinoedd, wrth gynllunio cadwraeth. 

Ychwanegodd Dr Lurgi: "Credaf ei bod hi'n bwysig datblygu damcaniaeth a modelau i'n helpu i ddeall yr effeithiau hyn ac i'n galluogi i feddwl am ffyrdd gwell o fynd i'r afael â cholli cynefinoedd a ffynonellau eraill newid anthropogenig er mwyn gwella cadwraeth bioamrywiaeth." 

Cyhoeddir y papur The stability of multitrophic communities under habitat loss yn Nature Communications. Yr awduron yw Chris McWilliams, Miguel Lurgi, Jose M. Montoya, Alix Sauve, a Daniel Montoya