Mae astudiaeth wedi cael bod dioddefwyr ifanc seiberfwlio ddwywaith mor debygol o geisio lladd eu hunain a hunan-niweidio

Mae plant a phobl ifanc o dan 25 mlwydd oed sydd yn dioddef o seiberfwlio ddwywaith mor debygol o hunan-niweidio ac ymddwyn yn hunanladdol, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad dioddefwyr seiberfwlio yn unig sy’n agored i ymddygiadau hunanladdol, ond mae’r bwlïod eu hunain hefyd wrth risg uwch o ymddwyn a meddwl yn hunanladdol.

Seiberfwlio yw’r dull o ddefnyddio cyfathrebu electronig i fwlio rhywun arall, er enghraifft drwy ddanfon negeseuon bygythiol neu annymunol drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Teenage girl being bullied via social media

Arweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Ann John o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Rhydychen a Birmingham. Edrychodd yr astudiaeth ar 150,000 o blant a phobl ifanc o dros 30 o wledydd, dros gyfnod o 21 o flynyddoedd.

Amlygodd eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y Journal of Medical Internet Research, yr effaith sylweddol y gall seiberfwlio (fel bwlïod a dioddefwyr) ei gael ar blant a phobl ifanc.

Meddai’r ymchwilwyr ei fod yn dangos angen brys am ymyrryd ac atal effeithiol mewn strategaethau bwlio.

Dywed yr Athro Ann John: “Dylid cynnwys atal seiberfwlio mewn polisïau gwrthfwlio ysgolion, ochr yn ochr â chysyniadau ehangach megis dinasyddiaeth ddigidol, cymorth gan gymheiriaid ar-lein i ddioddefwyr, sut y gallai tyst electronig ymyrryd; ac ymyriadau mwy penodol megis sut i gysylltu â chwmnïau ffonau symudol a darparwyr gwasanaethau’r rhyngrwyd i rwystro, i addysgu neu i adnabod defnyddwyr.”

Mae atal ac ymyrraeth hunanladdiad yn hanfodol o fewn unrhyw raglen gwrth-fwlio cynhwysfawr, a dylai gwaith cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth a hyfforddi staff a disgyblion”.

Mae nifer o argymhellion allweddol wedi cael eu nodi gan yr ymchwilwyr:

  • Dylai llunwyr polisi sy’n rhoi atal bwlio ar waith ystyried seiberfwlio (yn ogystal â bwlio traddodiadol) a rhaglenni defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.
  • Dylai clinigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac sy’n asesu materion iechyd meddwl ofyn yn rheolaidd am brofiadau seiberfwlio, a chael eu hyfforddi i wneud hynny. 
  • Dylid sgrinio plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â seiberfwlio ar gyfer anhwylderau meddyliol cyffredin a hunan-niweidio.
  • Mae rhaglenni ysgolion, teulu, a chymunedau sy’n hyrwyddo defnydd addas o dechnoleg yn bwysig.

Canfu'r astudiaeth hefyd gysylltiad cryf rhwng bod yn ddioddefwr seiber a bod yn droseddwr. Canfuwyd bod y ddeuoliaeth hon yn rhoi gwrywod mewn perygl uwch o iselder ac ymddygiadau hunanladdol.

Amlygodd yr ymchwilwyr y dylid cydnabod y gwendidau hyn yn yr ysgol fel bod ymddygiad seiberfwlio yn cael ei ystyried fel cyfle i gefnogi pobl ifanc bregus, yn hytrach na’ disgyblu.

Argymhellwyd y dylai rhaglenni a phrotocolau gwrth-fwlio fynd i'r afael ag anghenion dioddefwyr a throseddwyr, gan y gallai gwaharddiad ysgol gyfrannu at ymdeimlad unigolyn o fod yn unig ac yn arwain at deimladau o anobaith, sy'n aml yn gysylltiedig ag ymddygiad hunanladdol ymhlith pobl ifanc a phobl ifanc.

Canfu'r ymchwil hefyd fod myfyrwyr a chafodd ei seiberfwlio yn llai tebygol o adrodd a chwilio am gymorth na'r rhai a ddioddefwyd gan ddulliau mwy traddodiadol, gan bwysleisio pwysigrwydd staff mewn ysgolion i annog unigolion i ofyn am gymorth.