Ymchwil yn dangos y gallai plastigau du greu ynni adnewyddadwy

Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi canfod sut y gall plastigau a geir yn aml mewn pecynnu bwyd gael eu hailgylchu i greu deunyddiau newydd megis gwifrau ar gyfer trydan – a allai helpu i leihau gwastraff plastig yn y dyfodol.

Er mai dim ond cyfran fach o’r cannoedd o fathau o blastigau sy'n gallu cael eu hailgylchu gan dechnoleg gonfensiynol, canfu’r ymchwilwyr fod modd gwneud pethau eraill i ailddefnyddio plastigau ar ôl iddynt gael eu defnyddio at eu diben gwreiddiol.

Mae’r ymchwil, a gyhoeddwyd yn The Journal for Carbon Research, yn canolbwyntio ar ailgylchu cemegol sy’n defnyddio elfennau cyfansoddol y plastig i wneud deunyddiau newydd.

Er bod pob plastig wedi’i wneud o garbon, hydrogen ac weithiau ocsigen, mae’r modd y mae’r tair elfen hon wedi’u trefnu a’r symiau ohonynt yn gwneud pob plastig yn unigryw. Gan fod plastigau’n gemegau pur a choeth iawn, gallant gael eu torri i lawr i’r elfennau hyn a’u bondio mewn gwahanol drefniadau i wneud deunyddiau gwerth uchel megis nanodiwbiau carbon.

Meddai Dr Alvin Orbaek White, Cymrawd Sêr Cymru II yn y Sefydliad Ymchwil i Ddiogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae nanodiwbiau carbon yn foleciwlau bach iawn gyda nodweddion ffisegol anhygoel. Mae strwythur nanodiwb carbon yn debyg i ddarn o wifren cwt ieir wedi’i lapio mewn silindr a phan gaiff carbon ei drefnu fel hyn mae’n gallu dargludo gwres a thrydan. Mae'n bwysig iawn rheoli a defnyddio'r ddau fath hwn o ynni yn y symiau cywir, gan ddibynnu ar eich anghenion.

"Gellir defnyddio nanodiwbiau i wneud ystod enfawr o bethau, megis ffilmiau dargludo ar gyfer arddangosiadau sgrîn gyffwrdd, ffabrigau electroneg hyblyg sy'n creu ynni ac antenau ar gyfer rhwydweithiau 5G. Mae NASA hyd yn oed wedi'u defnyddio i atal siociau trydan ar long ofod Juno."

Yn ystod yr astudiaeth, profodd y tîm ymchwil blastigau, yn benodol plastigau du na ellir eu hailgylchu’n hawdd, a ddefnyddir yn aml fel pecynnu ar gyfer prydau parod a ffrwythau a llysiau mewn archfarchnadoedd. Aethant ati i dynnu'r carbon ac yna adeiladu moleciwlau nanodiwb o'r gwaelod i fyny gan ddefnyddio'r atomau carbon ac yna ddefnyddio'r nanodiwbiau i dargludo trydan i fwlb mewn model arddangos bach.

Bellach mae'r tîm ymchwil yn bwriadu gwneud ceblau trydanol carbon o burdeb uchel gan ddefnyddio deunyddiau plastig gwastraff ac er mwyn gwella perfformiad trydanol y deunydd nanodiwb a chynyddu'r allbwn, fel eu bod yn barod i'w defnyddio ar raddfa fawr yn y tair blynedd nesaf. 

Meddai Dr Orbaek White: "Mae'r ymchwil yn arwyddocaol gan fod modd defnyddio nanodiwbiau carbon i ddatrys y broblem o geblau trydan yn gorboethi a methu, sy'n gyfrifol am oddeutu 8% o'r ynni a gollir wrth gael ei ddargludo a'i ddosbarthu'n fyd-eang. 

"Efallai nad yw'n ymddangos yn beth mawr, ond mae'n isel gan fod ceblau trydan yn fyr, sy'n golygu bod angen i orsafoedd pŵer fod yn agos i'r lleoliad lle defnyddir y trydan, neu fel arall caiff yr ynni ei golli wrth iddo gael ei ddargludo.

"Nid oes llawer o geblau ystod hir, a wnaed o fetelau, sy’n gallu gweithredu ar eu capasiti llawn gan y byddant yn gorboethi ac yn toddi.  Mae hyn yn cyflwyno problem go iawn ar gyfer dyfodol ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio gwynt neu solar, gan fod y safleoedd gorau yn bell i ffwrdd o ble mae pobl yn byw."